
|
CYFLEOEDD NEWYDD YM MYD Y THEATR
Eleni mae’r Urdd yn cynnig cyfleoedd newydd sbon ym maes y theatr
gan fod natur y cystadlaethau Cyflwyno Drama i Gwmnïau yn Eisteddfod
yr Urdd yn wahanol.
Gan fod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm
Cymru eleni, mae’n gyfle gwych i arbrofi a rhoi cynnig ar
weithgareddau cwbl newydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Ynghyd â chyflwyniadau o waith ar lwyfan traddodiadol, mae’r Urdd am
annog grwpiau i lwyfannu dramâu modern a chyflwyniadau theatrig sy’n
gorfforol neu’n defnyddio dulliau arbrofol.
Bwriadir llwyfannu amryw o berfformiadau yn yr Eisteddfod, gyda
phwyslais ar ddefnyddio ystod eang o genres theatrig, a chyflwyno
syniadau amgenach na’r hyn sydd i’w gweld yn draddodiadol ar lwyfan
y pafiliwn.
Bydd y perfformiadau hyn yn cynnwys hyd at 35 munud o waith ar
lwyfan traddodiadol, cyflwyniadau byrion hyd at 7 munud o hyd sy’n
ymdrin â dulliau megis dawns neu waith corfforol a chyflwyniadau
mewn gofod nad yw’n ofod perfformio traddodiadol.
Meddai Jeremy Turner, Cadeirydd Panel Drama Eisteddfod Genedlaethol
Urdd Gobaith Cymru:
"Mae'r cystadlaethau drama - yn wahanol i rai elfennau perfformio
mwy confensiynol yr Eisteddfod - yn gyfle i glywed llais bobl ifanc
ac yn gyfle iddynt gyflwyno arddulliau a thechnegau perfformio
cyfoes sydd yn deillio o ddiwylliant ieuenctid. Eleni diddymwyd yr
elfen gystadleuol yn y gobaith y denir mwy o bobl ifanc i fentro, i
arbrofi ac i herio. Dwi wir yn edrych ymlaen at weld eu gwaith!"
Bydd y Perfformiadau Theatrig yn cael eu cynnal yn Theatr Weston,
Canolfan Mileniwm Cymru.
Mae manylion y Perfformiadau Theatrig i’w gweld isod:
Nos Fawrth 31, Mai 2005
Licris Olsorts – Cip ar ysgolion ac ati
Cyfres o olygfeydd gan ddramodwyr cyfoes ar gyfer pobl ifanc gyda
golygfeydd cyswllt o ganu a dawns.
Nos Fercher, 1 Mehefin 2005
Aelwyd Llanrwst – Trafferth mewn ysgol
Drama fer mewn 4 rhan, gan Gwenan Gruffydd.
Ysgol Gyfun Llanhari – Detholiad o waith Dennis Potter – Blue
Remembered Hills
Nos Iau, 2 Mehefin, 2005
Ysgol y Berwyn – Ti, fi a Mrs Jones (addasiad Derek Williams a Huw
Dylan Jones o “You me and Mrs Jones” gan Tony Horitz.)
Mae’r ddrama’n dilyn hynt a helynt dau o bobl ifanc cyffredin ar eu
taith i chwilio am ‘arwyr’. Dônt ar draws sawl cymeriad ‘arwrol’ –
ond pwy yw ein gwir arwyr?
CF1 – “Ni’n Dwy” gan Nan Lewis
Disgrifiad o’r Rhaglen - Drama fer am fam a merch sy’n gorfod delio
gyda’r salwch meddyliol schizophrenia.
Ysgol Gyfun y Cymer – Conffeti, babis a Posh a Becks
Detholiadau o 3 drama wahanol sy’n ymdrin â phriodas (1) Gwaith
Dyfeisiedig ar drefnu priodas (2) Detholiad o Y Tŵr gan Gwenlyn
Parry (3) Detholiad o Pŵff gan Lynn Nottage
Aelwyd yr Ynys – Sant Joan (detholiad o gyfieithiad Syr Thomas Parry
a ddrama George Bernard Shaw)
Un o arwresau rhamantaidd y byd yw St. Joan. Ym 1429 arweiniodd
fyddin o deng mil o filwyr Ffrengig i ffuddudoliaeth yn erbyn y
Saeson ar ôl iddi glywed lleisiau o’r nefoedd yn dweud wrthi am
gysegru ei bywyd i achub Ffrainc o grafangau Lloegr. Yna coronodd y
Dauphin yn frenin yn Eglwys Gadeiriol Rheims. Ym 1431 daliwyd hi gan
Ddug Burgundy – un o’i chenedl ei hun oedd yn ymladd ar ochr y
Saeson. Ar ôl 4 mis o garchar cafodd ei llosgi am ddewiniaeth – dim
ond 19 oed oedd hi.
Dechrau’r stori a welwn yn y ddrama hon…
Er mwyn archebu tocynnau dylid cysylltu gyda Canolfan Mileniwm Cymru
ar 0870 040 2000 neu www.wmc.org.uk
Am fwy o wybodaeth cysyllter â:
Manon Wyn, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Swyddfa’r
Urdd, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, 01970 613115,
manonwyn@urdd.org
View in English
|